Dyma grynodeb byr o'n prosiectau dros 2025. Am ddiweddariadau mwy rheolaidd, dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr gan ddefnyddio'r ffurflen ar y prif dudalen.
Prosiectau / Projects
Here's a brief summary of our 2025 projects. For more regular updates, follow us on social media or sign up to our newsletter using the form on the home page.
Siop ail-lenwi newydd yma yn Hwb Croesor! Diolch i gronfa Cylchol, Menter Môn. Mae’r siop yn gwerthu bwyd sych fel reis, pasta, siwgr, mwseli, cwinoa, grawnfwydydd, cnau, hadau a mwy, lle bynnag y bo modd gan gyflenwyr organig a chynaliadwy. Mae’r siop hefyd yn gwerthu cynhyrchion glanhau eco y gellir eu hail-lenwi fel hylif golchi dillad, cyflyrydd ffabrig, glanhawr arwynebau, hylif golchi llestri a glanhawr toiled. Mae oergell hefyd ar gyfer dosbarthu llefrith. Mae poteli gwydr ar gael i’w prynu, ond gallwch ddod ag unrhyw gynhwysydd i’w ail-lenwi! Mae’r siop wedi’i leoli yn y cyntedd y tu allan i doiledau’r adeilad, a bydd ar agor am hunanwasanaeth o ddydd Llun i ddydd Sul 9-5yp, gyda chod allwedd. Os hoffech ddefnyddio’r siop, rhaid i chi fynegi eich diddordeb mewn ymuno â’r grŵp Whatsapp preifat lle bydd y cod allwedd ac manylion hanfodol arall yn cael ei rannu.
Gallwch fynegi diddordeb drwy anfon e-bost atom ar hwbcroesor@gmail.com. Agoriad y siop: 28fed Tachwedd 2025
Siop ail-lenwi Hwb Croesor / Hwb Croesor refill shop
A new refill shop at Hwb Croesor! Thanks to the Cylchol fund by Menter Môn. The shop sells dried food such as rice, pasta, sugar, museli, quinoa, grains, nuts, seeds and more, wherever possible from organic and sustainable suppliers. The shop also sells refillable eco cleaning products such as laundry liquid, fabric conditioner, surface cleaner, washing up liquid and toilet cleaner. There is a refridgerated dispener for milk refills. Glass bottles are available to buy, but you can bring any container to refill! The shop is located in the foyer outside the toilets of the building and will be ‘open’ for self-service from Monday to Sunday 9-5pm, with a key code. If you would like to use the shop, you must express your interest in joining the private Whatsapp group where the key code and other information is shared.
You can express interest by emailing us at hwbcroesor@gmail.com. Shop opening: 28th November 2025
Prosiect cyfranogiad cymunedol a ariennir gan Lechi Cymru, Cyngor Gwynedd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol i gynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithdai i'r gymuned archwilio, dysgu a bod yn greadigol, gyda phwyslais ar ddathlu’r treftadaeth lechi. Yn ogystal â'r digwyddiadau hyn, rydym wedi casglu straeon, gwaith celf, fideos, clipiau sain a cyfweliadau o’r gymuned, er mwyn creu map digidol o ddau lwybr cerdded hunan-dywys o fewn Cwm Croesor. Roedd artist lleol wedi’i comisiynu i greu darlun o Groesor i fynd ochr yn ochr â gwaith celf plant lleol ar boster, sydd ar gael am ddim o Hwb Croesor.
Dyddiad cau prosiect: Tachwedd 2025
Mapio'r Gymuned / Mapping the Community
Community participation project funded by Welsh Slate, Gwynedd Council and the National Lottery Heritage Fund to host a series of events and workshops for the community to explore, learn and be creative, with emphasis on celebrating the local slate heritage. Additionally to these events, we spent the year collecting stories, artworks, videos, audio clips and interviews of the community, to create a digital map of two self-guided walking routes within Croesor valley. A local artist was commissioned to create an illustration of Croesor to go alongside local children’s artworks on a free flyer, which is available for free to pick up from Hwb Croesor.
Project end date: November 2025
Ewch i Caffi Croesor i sganio'r cod QR er mwyn mynd ar daith gerdded (mae'r ddwy daith yn cychwyn ac yn gorffen yn Caffi Croesor). Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eu horiau agor yma!
I ddatrys problemau gyda'r ap, ewch i'n tudalen gymorth neu cysylltwch gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Visit Caffi Croesor to scan the QR code in order to access the walking tours (both tours start and end at Caffi Croesor). Make sure to check their opening times here!
For troubleshooting problems with the app, visit our support page or get in touch using the contact details below.
Fe welwch chi nawr gynhyrchion mislif cynaliadwy yn nhoiledau Hwb Croesor! Mae'r rhain am ddim ac rydym yn eich annog i'w defnyddio. Mae gennym ni hefyd nifer fach o nicers mislif ailddefnydd i'w gynnig allan i’r gymuned.
Cysylltwch â ni er mwyn trefnu casglu pâr - hwbcroesor@gmail.com
Dyddiad prosiect: Hydref 2025
Cronfa Urddas Mislif / Period Dignity Fund
You will now find a new range of sustainable sanitary products in the toilets of Hwb Croesor! These are free and we encourage you to use them as needed. We also have a small amount of reusable period pants to give out for free!
Please get in touch to grab yours - hwbcroesor@gmail.com
Project date: October 2025
Wythnos Lles Hwb Croesor / Hwb Croesor’s Wellness Week
Wythnos lawn o ddigwyddiadau hanner tymor i'w mwynhau am ddim!
Dyddiad prosiect: 27 Hydref - 1 Tachwedd 2025
A full week of half term events to enjoy for free!
Project date: 27th October - 1st November 2025